Am y prosiect

Mae Uniper yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu gorsaf bŵer nwy newydd gyda thechnoleg dal carbon ar ei safle yng Nghei Connah, sef prosiect Pŵer Carbon Isel Cei Connah (CQLCP). Pe byddai’r orsaf bŵer yn cael ei chaniatáu a’i datblygu byddai’n gallu darparu tua 1.1 gigawat (GW) (hyd at uchafswm o 1.38 GW) o bŵer carbon isel, i helpu i ddiwallu’r angen cynyddol am drydan, pryd bynnag y bydd ei angen.

Disgwylir i’r orsaf bŵer tyrbin nwy cylch cyfun newydd (CCGT) gael ei datblygu mewn dau gam; gyda chapasiti cychwynnol o tua 550MW o bŵer carbon isel, ac ehangu yn ddiweddarach i tua 1.1GW (hyd at uchafswm o 1.38GW). Gallai cam un fod yn weithredol erbyn 2030.

Cynhaliwyd ein Hymgynghoriad Anstatudol rhwng dydd Llun 26 Chwefror a dydd Llun 25 Mawrth 2024. Ers hynny, mae ein tîm prosiect wedi bod yn datblygu’r cynigion, gan ystyried yr adborth a dderbyniwyd lle bo modd.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gennych gyfle i wneud sylwadau ffurfiol ar ein cynigion wedi’u diweddaru cyn i ni gyflwyno cais DCO i’r Arolygiaeth Gynllunio, y disgwylir iddo fod yn gynnar yn 2025.

Ceir gwybodaeth fanylach am ein cynigion yn ein llyfrgell ddogfennau.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu a, lle bo modd, bydd yn helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y prosiect.

Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus i roi cyfle i chi weld ein cynlluniau wedi’u diweddaru yn fanwl, siarad ag aelodau o’n tîm prosiect a rhoi eich adborth ar ein cynigion.

Gallwch hefyd gofrestru i gael diweddariadau gan ddefnyddio’r botwm isod os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Faq Your questions

Frequently Asked Questions

Fill-form Have your say

Hand writing