Cyflwyniad o’r prosiect

Os caiff ei chaniatáu a’i datblygu, byddai’r orsaf bŵer newydd yn gallu darparu hyd at uchafswm tebygol o 1.38 GW o bŵer carbon isel, i helpu i ddiwallu’r angen cynyddol am drydan, pryd bynnag y bo ei angen.

Mae’r prosiect yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu gorsaf bŵer tyrbin nwy cylch cyfun (CCGT) newydd ar dir Uniper ar ei safle yng Nghei Connah. Bydd gorsaf bŵer arfaethedig Cei Connah yn cael ei ffitio â thechnoleg dal carbon i ddal allyriadau CO₂. Byddai’r orsaf bŵer arfaethedig yn cysylltu â seilwaith trafnidiaeth a storio CO₂ gerllaw fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet, gan alluogi’r CO₂ a ddelir i gael ei gludo’n ddiogel i gyfleusterau storio alltraeth parhaol mewn meysydd nwy alltraeth disbyddedig sydd wedi’u hailbwrpasu.

Beth yw prosiect Pŵer Carbon Isel Cei Connah?

Wrth inni ddod yn fwy dibynnol ar drydan, gyda thrydaneiddio sectorau megis trafnidiaeth, gwresogi a diwydiant, bydd angen mwy o gapasiti cynhyrchu. Yn ôl cynghorydd annibynnol y DU ar newid yn yr hinsawdd, y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC), rhagwelir y bydd y galw am drydan yn cynyddu 50% erbyn 2035. Er mwyn bodloni’r galw cynyddol hwn a chyflawni nodau datgarboneiddio’r DU, mae’r CCC hefyd wedi cynghori Bydd angen ystod o wahanol dechnolegau gan gynnwys ynni adnewyddadwy a chynhyrchu datgarbonedig, megis nwy gyda thechnoleg Dal a Storio Carbon (CCS), i gynnal cyflenwad trydan diogel a sefydlog.

Ffeithiau allweddol am ein cynigion

  • Gallai CQLCP helpu i fodloni galw cynyddol y DU am drydan, y rhagwelir y bydd yn cynyddu 50% erbyn 2035.
  • Ein safle yng Nghei Connah yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer gorsaf bŵer carbon isel newydd, ar ôl bod â chynhyrchu trydan ar y safle ers y 1950au.
  • Mae seilwaith hanfodol sydd ei angen ar gyfer cynhyrchu trydan eisoes yn ei le, gan gynnwys cysylltiadau â’r grid trydan cenedlaethol a phiblinell y gellir ei hailosod a’i defnyddio i gludo CO₂ a ddaliwyd.
  • Pan fydd CQLCP yn gwbl weithredol, gallai gynhyrchu digon o drydan carbon isel i bweru hyd at 2.8 miliwn o gartrefi’r flwyddyn.
  • Pan fydd yn gwbl weithredol, ac ar ei lwyth llawn, gallai CQLCP ddal hyd at 3.7 megatunnell (Mt) o CO₂ y flwyddyn, gan gyfrannu at drawsnewidiad y DU i sero net.
  • Gallai CQLCP gyfrannu at dwf economaidd, gan diogelu swyddi technegol medrus a chreu cyfleoedd newydd yn ystod y cyfnod adeiladu.

Darparu diogelwch ynni

Byddai’r orsaf bŵer CCGT newydd arfaethedig gyda dal carbon yng Nghei Connah yn gallu cynhyrchu pŵer carbon isel yn hyblyg ac yn ddibynadwy i ddiwallu’r angen cynyddol am drydan, pryd bynnag y bydd ei angen. Bydd gorsafoedd pŵer fel hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn system ynni’r dyfodol, gan y gallant helpu i sicrhau bod ynni ar gael ar yr adegau pan fo’i angen fwyaf, a phan na all pŵer o ffynonellau adnewyddadwy fodloni’r galw.

Cyflawni lleihau carbon a chefnogi Sero Net

Mae CCC y DU a’r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi datgan bod CCS yn elfen hanfodol o drawsnewid i sero net. Ac i gefnogi hyn, o dan y llywodraeth flaenorol, roedd cyllideb 2023 yn cynnwys ymrwymiad o hyd at £20 biliwn i sefydlu sector Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) yn y DU, i helpu i ddatgloi cyfleoedd economaidd a chefnogi buddsoddiad yn y sector. Ymrwymodd y llywodraeth bresennol yn ei maniffesto £1bn pellach ac mae’n deddfu i greu GB Energy a fyddai’n cynnwys yn ei chylch gwaith gyd-fuddsoddi mewn pŵer CCS.

Gydag uchelgais y llywodraeth bresennol ar gyfer sector pŵer datgarbonedig erbyn 2030 a’i hymrwymiad i CCS, mae ein gorsaf bŵer newydd arfaethedig gyda thechnoleg CCS mewn sefyllfa dda i chwarae rhan hanfodol yn system ynni’r dyfodol. Byddai’n cysylltu â seilwaith trafnidiaeth a storio CO₂ gerllaw fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet, a gellir ail-bwrpasu piblinell bresennol a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gyflenwi nwy i’r safle ar gyfer cludo CO₂ a ddaliwyd, gan helpu i gyfrannu at gyflawni targedau sero net y DU.

Pam adeiladu gorsaf bŵer newydd yng Nghei Connah?

Mae Cei Connah yn lleoliad delfrydol ar gyfer sefydlu gorsaf bŵer carbon isel – gallai gysylltu â seilwaith trafnidiaeth a storio CO₂ gerllaw fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet, ac mae’n elwa ar arbenigedd y gweithlu tra medrus presennol.

Mae gorsaf bŵer hefyd wedi bod ar y safle ers dros 70 mlynedd, sy’n golygu bod seilwaith ynni hanfodol eisoes yn ei le, gan gynnwys piblinell bresennol y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer cludo CO₂ a ddaliwyd i’r meysydd nwy alltraeth disbyddedig presennol lle caiff ei storio’n barhaol.

O orsaf bŵer glo yn y 1950au, i’r orsaf bŵer nwy naturiol bresennol, a gyda cynlluniau yn y dyfodol i symud i orsaf bŵer carbon isel; mae esblygiad safle Cei Connah yn enghraifft o sut mae’r diwydiant ynni yn addasu i’r her a ddarperir gan newid hinsawdd. Rydym yn falch y gallai’r prosiect hwn olygu y gellir cadw swyddi yng Nghei Connah.

Gallai buddsoddi yng Nghei Connah gyfrannu’n sylweddol at dwf economaidd yn y rhanbarth, drwy ddiogelu swyddi, creu cyfleoedd newydd yn ystod y gwaith adeiladu, ynghyd â chyfleoedd posibl drwy’r gadwyn gyflenwi ehangach.

Faq Eich cwestiynau

Cwestiynau Cyffredin

Fill-form Dweud eich Dweud

Hand writing