Cynlluniau y prosiect
Os caiff ei chaniatáu a’i datblygu, ar hyn o bryd disgwylir i’r orsaf bŵer newydd gynnwys: Gorsaf bŵer tyrbin nwy cylch cyfun (CCGT) newydd a fydd yn gallu darparu hyd at uchafswm tebygol o 1.38 GW o bŵer carbon isel;
- Technoleg dal carbon i alluogi dal allyriadau carbon deuocsid (CO₂) o’r CCGT;
- Cysylltiad i seilwaith cludo a storio CO₂ cyfagos fel rhan o’r clwstwr diwydiannol HyNet.

Y newidiadau arfaethedig: Ymgynghoriad Newid o ddydd Mercher 21 Ionawr i ddydd Mercher 18 Chwefror 2026
Newidiadau i uchder staciau
Bydd cydrannau Tyrbin Nwy Cylch Cyfun (CCGT) a Gwaith Dal Carbon (CCP) yr orsaf bŵer newydd arfaethedig yn cynnwys staciau i awyru nwyon gwastraff a gynhyrchir wrth hylosgi yn ddiogel i’r atmosffer.
Ers i ni gyflwyno ein cais DCO ar gyfer Pŵer Carbon Isel Cei Connah ym mis Awst 2025, rydym wedi parhau â’n gwaith datblygu a mireinio dyluniad manwl, tra hefyd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartïon â diddordeb.
Yn ein cais DCO gwreiddiol, ein dyluniad arfaethedig oedd i’r stac allyriadau amsugno a stac Generadur Ager Adfer Gwres (HRSG) fod ar uchder o 150m er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol posibl, a oedd yn seiliedig ar y wybodaeth ddylunio oedd ar gael ar y pryd.
Wrth i ni barhau i weithio ar y prosiect, mae’r datrysiad technegol wedi parhau i aeddfedu. Mae’r cynnydd a wnaed gyda’n dyluniad yn golygu y gellir cyflawni effeithiau amgylcheddol derbyniol ym mhob senario, gan gynnwys pan fydd y CCGT yn gweithredu heb y gwaith dal carbon, gydag uchder y staciau wedi’i leihau.
Uchderau uchaf arfaethedig staciau nawr yw 145m ar gyfer y staciau amsugno CCP a 130m ar gyfer y staciau HRSG. Mae hyn ychydig yn is na’r 150m arfaethedig (ar gyfer y ddau fath) y gwnaethom ymgynghori arno yn ein hymgynghoriad targedig ym mis Mai 2025, er yn uwch na’r 120m a’r 85m a gynigiwyd yn wreiddiol yn ein cynnig dylunio cychwynnol yn yr Ymgynghoriad Statudol.
Mae hyn hefyd yn diwallu’r angen am ostyngiad ym mharamedrau uchder uchaf y staciau a nodwyd trwy ymgysylltu ymhellach â’n rhanddeiliaid gan gynnwys Airbus Operations Limited.
Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw’r orsaf bŵer newydd arfaethedig yn torri Arwyneb Cyfyngu Rhwystrau (OLS) Arwyneb Llorweddol Allanol (OHS) sy’n gysylltiedig â diogelwch awyrennau Maes Awyr Penarlâg.
Rydym wedi cwblhau gwaith modelu wedi’i ddiweddaru o allyriadau gweithredol i gadarnhau y gellir lleihau uchder y staciau i’r uchder newydd a gynigir heb gyflwyno unrhyw effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol newydd neu wahanol.
Byddai CQLCP yn cael ei gynllunio fel bod yr allyriadau a gynhyrchir gan y gwaith ac a ryddheir i’r aer yn cydymffurfio â’r terfynau allyriadau a osodir ac a reoleiddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy Drwydded Amgylcheddol sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediad y cyfleuster.
Addasiad dynodiad tir
Mae saith ardal o fewn llinell ffens weithredol gorsaf bŵer bresennol Cei Connah, a ddynodwyd yn wreiddiol fel ‘cynefin a gedwir’ yn ein cais DCO. Mae cynefin a gedwir yn golygu cynefin a fydd yn aros yn ei le ar ôl datblygu. Nid yw’n awgrymu bod y cynefin o ansawdd uchel, yn bwysig, nac yn sensitif yn ecolegol. Mae’r saith ardal yn gynefinoedd o werth ecolegol isel sy’n cynnwys glaswelltir a phrysgwydd cymysg, gyda chysylltedd cyfyngedig i rwydwaith ecolegol ehangach.
Yn seiliedig ar adolygiad manwl o anghenion gweithredol presennol a rhai’r dyfodol, nid yw bellach yn bosibl neilltuo’r dynodiad ‘cynefin a gedwir’ i’r ardaloedd hyn o dir. Mae hyn oherwydd bod chwech o’r darnau tir yn hanfodol ar gyfer gweithgareddau mater o drefn, ar gyfer gweithredu a chynnal a chadw’r orsaf bŵer bresennol o ddydd i ddydd. Mae angen un ardal i ddarparu ar gyfer cyfleusterau’r contractwyr sydd wedi’u hadleoli i wasanaethu’r orsaf bŵer bresennol.
Felly, byddai cadw’r cynefinoedd hyn yn cyfyngu’n ormodol ar weithrediad effeithlon yr orsaf bŵer bresennol. Er mwyn atal cyfyngiadau o’r fath, y cynnig yw ailddosbarthu’r saith darn hyn o ‘gynefin a gedwir’ i ‘golled cynefin parhaol’ o fewn ffin weithredol y safle, oherwydd eu gwerth ecolegol isel a’u hangenraid gweithredol.
Adleoli cyfleusterau contractwyr presennol
Mae nifer o gyfleusterau contractwyr presennol wedi’u lleoli mewn strwythurau modwlar dros dro ar safle gorsaf bŵer Cei Connah, y mae angen eu hadleoli i leoliad mwy addas o fewn Terfynau’r Gorchymyn. Mae angen y newid hwn, oherwydd ni all yr ardal a nodwyd yn wreiddiol yn y cais DCO (Gorchymyn Caniatâd Datblygu) o fewn y Brif Ardal Datblygu ddarparu ar gyfer yr holl gyfleusterau sydd eu hangen. Felly, mae lleoliad newydd o fewn Terfynau’r Gorchymyn wedi’i nodi fel yr unig safle ymarferol sy’n diwallu anghenion gweithredol a mynediad ar gyfer gweithrediad parhaus yr orsaf bŵer.
Ehangu llawr caled arfaethedig yng Nglanfa Gogledd Cei Connah
Y newid arfaethedig yw estyniad parhaol i’r ardal llawr caled bresennol yng Nglanfa Gogledd Cei Connah i gynorthwyo gyda thrin a storio dros dro ddanfoniadau offer mwy ar y dyfrffyrdd, ar gyfer adeiladu’r orsaf bŵer CCGT newydd arfaethedig gyda thechnoleg dal carbon.
Glanfa Gogledd Cei Connah yw’r porthladd agosaf at brif safle datblygu arfaethedig CQLCP. Fe’i cynhwyswyd yn ein cais DCO fel y porthladd dynodedig i dderbyn Llwythi Anwahanadwy Annormal (AILs) trwy gludo cydrannau parod ar gyfer yr orsaf bŵer newydd ar ddŵr, megis rhannau mawr ar gyfer y tyrbinau nwy neu’r gwaith dal carbon. Bydd defnyddio’r porthladd hwn yn lleihau pellteroedd cludiant ffordd, yn osgoi llwybro llwythi o’r fath trwy borthladdoedd eraill megis Mostyn neu Borthladd Ellesmere, ac yn atal yr angen am waith priffyrdd ychwanegol a allai fel arall gael ei sbarduno gan symudiadau llwyth annormal o’r lleoliadau hynny.
Cynhaliwyd asesiadau pellach fel rhan o’r broses Dylunio Peirianneg Pen Blaen (FEED) barhaus, sydd wedi nodi’r angen am ardal ychwanegol o lawr caled dros dro yng Nglanfa Gogledd Cei Connah. Efallai na fydd yr ardal o lawr caled a sefydlwyd yn flaenorol ac a gynhwyswyd yn ein cais DCO, er yn gallu cynorthwyo gyda danfoniadau peiriannau mawr, yn caniatáu i gydrannau a ddanfonir ar ddŵr gael eu danfon a’u dadlwytho yn y modd mwyaf effeithlon. Yn benodol, drwy gynnwys yr ardal ychwanegol hon, mae mwy o opsiynau ar gael o ran y math o gerbydau y gellid eu defnyddio ar gyfer dosbarthu a cherbydau ro-ro (rholio ymlaen, rholio i ffwrdd), gan roi’r hyblygrwydd mwyaf i symud Llwythi Anwahanadwy Annormal (AILs).
Mae’r newid hwn yn gofyn am newid i Derfynau’r Gorchymyn ac yn cyflwyno 0.21ha ychwanegol o ddefnydd tir parhaol.
Byddai hyn yn caniatáu i offer gael ei ddadlwytho’n effeithlon a rhoi’r hyblygrwydd mwyaf i symud Llwythi Anwahanadwy Annormal (AILs) pan fyddant yn cael eu dadlwytho o fad i’r cei, yn enwedig pan fydd y llanw’n newid ar ochr y porthladd.
Unwaith y bydd cam adeiladu CQLCP a’r danfoniadau cysylltiedig wedi’u cwblhau, bydd Uniper yn gadael yr ardal a bydd ar gael i’w defnyddio yn y dyfodol gan berchennog y tir, Tata Steel UK Limited.
Mae rhagor o fanylion am y newidiadau dylunio uchod, yn ogystal â newidiadau arfaethedig pellach ar leihau pwerau caffael tir ac alinio cynllun tirwedd coridor cysylltu CO2 â phrosiect piblinell CO2 HyNet, i’w gweld yn y cylchlythyr ymgynghori yma.
Beth yw dal a storio carbon (CCS)?
Mae CCS yn rhan allweddol o’r broses o leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu ynni. Mae’n ymwneud â thynnu a dal CO2 o allyriadau gorsafoedd pŵer, a’i gludo i ffwrdd i’w storio’n ddiogel o dan y ddaear, yn aml mewn dyfrhaenau neu feysydd olew a nwy wedi’u disbyddu.
Bydd dyluniad y safle yn ymgorffori technoleg dal carbon ar ôl hylosgi, a fydd yn gallu dal o leiaf 95% o’r allyriadau CO2 a gynhyrchir.
Mae CCS yn dechnoleg sydd wedi bod ar waith yn ddiogel ers nifer o flynyddoedd, er enghraifft ym mhrosiect storio CO2 Sleipner yn Norwy a sefydlwyd ym 1996.


The project plans
Have your say
We want to hear your views on our emerging proposals for the project.
