Eich cwestiynau
Mae Uniper yn gwmni ynni rhyngwladol gyda gweithgareddau mewn mwy na 40 o wledydd ac mae ganddo tua 7,000 o weithwyr ledled y byd. Yn y DU, mae Uniper yn berchen ar ac yn gweithredu portffolio cynhyrchu hyblyg o saith gorsaf bŵer, cyfleuster storio nwy cylch cyflym a dwy bibell nwy pwysedd uchel, o Theddlethorpe i Killingholme ac o Blyborough i Cottam.
Mae Uniper yn bwriadu bod yn gwbl garbon-niwtral erbyn 2040 a’i nod yw i’w allu cynhyrchu pŵer gosodedig fod yn fwy na 80% yn ddi-garbon erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r cwmni’n trawsnewid ei weithfeydd pŵer a’i gyfleusterau ac yn buddsoddi mewn unedau cynhyrchu pŵer hyblyg, anfonadwy.
Mae Uniper eisoes yn un o weithredwyr gweithfeydd ynni dŵr mwyaf Ewrop yn yr Almaen a Sweden, ac mae’n helpu i ehangu pŵer solar a gwynt ymhellach, sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a diogel.
Mae’r cwmni’n ehangu ei bortffolio nwy yn raddol i gynnwys nwyon carbon isel fel hydrogen a biomethan a’i nod yw trosi i’r nwyon hyn yn y tymor hir.
Strategaeth Uniper yw sicrhau cyflenwad ynni dibynadwy tra’n cyflymu’r trawsnewid ynni.
Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi €8 biliwn mewn prosiectau twf a thrawsnewid rhwng 2023 a 2030. Mae hyn yn cynnwys datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd, buddsoddi mewn nwyon glân fel hydrogen, a gweithfeydd pŵer carbon isel neu ddi-garbon newydd a thrwy drawsnewid ein fflyd bresennol yn gynyddol i fod yn brif ffynhonnell pŵer di-garbon yn Ewrop.
Mae carbon deuocsid (CO₂) yn cael ei storio’n ddiogel yn ddwfn o dan y môr, rhwng 0.8 a 3km i lawr fel arfer, am filoedd o flynyddoedd.
Mae safleoedd storio CO₂ yn cael eu dewis yn ofalus i sicrhau’r hyder uchaf mewn storio parhaol ac mae gweithdrefnau trylwyr ar waith ar gyfer nodweddu, monitro a dilysu’r safleoedd er mwyn sicrhau bod y CO₂ yn aros yn ddiogel. Mae’r asesiadau a’r gweithdrefnau hyn yn ofynnol o dan reoliadau CCUS cyn y caniateir i brosiect fynd rhagddo.
Mae llawer o’r mannau posibl ar gyfer safleoedd storio yn ddyfrhaenau halwynog mawr neu’n feysydd olew a nwy disbyddedig ac sydd eisoes wedi storio nwy a CO₂ yn naturiol ers miliynau o flynyddoedd
Mae’r cynigion i ddatblygu gorsaf bŵer carbon isel newydd yng Nghei Connah megis dechrau. Er bod gennym gynlluniau cychwynnol ar gyfer y prosiect, rydym ar hyn o bryd yn mynd drwy broses o ymgynghori ac ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys asiantaethau cenedlaethol, awdurdodau lleol, busnesau, grwpiau cymunedol a thrigolion lleol. Cynhaliwyd rhaglen ymgynghori gychwynnol rhwng 26 Chwefror a 25 Mawrth 2024 ac rydym bellach yn cynnal Ymgynghoriad Statudol rhwng 8 Hydref a 19 Tachwedd 2024. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r holl randdeiliaid hyd nes y byddwn yn cyflwyno ein cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i Arolygiaeth Gynllunio. Disgwyliwn gyflwyno ein cais DCO yn gynnar yn 2025.
Mae gan Uniper bresenoldeb hirsefydlog yng Nghei Connah ac mae’n deall pwysigrwydd bod yn gymydog da. Er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â phobl leol ar ein cynigion, rydym wedi cytuno ar raglen o ymgynghori cyhoeddus gyda’r awdurdodau cynllunio lleol – Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer. Bydd y rhaglen ymgynghori hon, y manylir arni yn ein Datganiad o Ymgynghori Cymunedol (SoCC), yn rhoi cyfle i bobl mewn cymunedau lleol a’n rhanddeiliaid ofyn cwestiynau a rhoi adborth ar ein cynigion, a lle bo modd, bydd yn helpu i lywio ein cais cynllunio.
Mae’r SoCC, sydd i’w weld ar ein gwefan, yn nodi sut mae Uniper yn bwriadu ymgynghori â’r gymuned leol ar ei gynigion ar gyfer prosiect Pŵer Carbon Isel Cei Connah. Wrth ddatblygu’r SoCC, ymgynghorodd Uniper â Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, yr awdurdodau cynllunio lleol, a rhoi sylw i sylwadau ganddynt. Anfonwyd y SoCC hefyd at awdurdodau cynllunio lleol cyfagos er mwyn iddynt gyfeirio atynt a rhoi sylwadau arnynt.
Byddwn yn ymgynghori ar yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR) ac yn gwahodd adborth ar ein cynigion yn ystod ein Hymgynghoriad Statudol, a gynhelir rhwng 8 Hydref a 19 Tachwedd 2024.
Gallai datblygu gorsaf bŵer carbon isel newydd yng Nghei Connah helpu i gynnal ffyniant economaidd yng Nglannau Dyfrdwy ac ar draws y rhanbarth, drwy ddiogelu tua 60 o swyddi medrus iawn, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd yn ystod y gwaith adeiladu a thrwy’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Mae gan y datblygiad arfaethedig y potensial i gyfrannu hyd at £1.5 biliwn i economi’r DU, y gallai hyd at £811m ohono fod o fudd i’r ardal leol, a gallai £1.181 biliwn fod o fudd i ranbarth ehangach Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
Mae gan Uniper bresenoldeb hirsefydlog yng Nghei Connah ac mae’n deall pwysigrwydd bod yn gymydog da. Er mwyn rhagweld faint o draffig y gallai’r gwaith adeiladu a gweithredu’r cyfleuster arfaethedig ei gynhyrchu, bydd Uniper yn gweithio gyda Highways England (HE) a’r awdurdod cynllunio lleol i helpu i lywio asesiadau technegol helaeth. Bydd y rhain yn gwerthuso pa ffyrdd y gellir eu defnyddio i gael mynediad i’r safle ac yn argymell mesurau priodol i helpu i reoli lefelau traffig yn effeithiol. Byddai hyn yn rhan o’n Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’w gynnwys fel rhan o’r cais cynllunio DCO.
Yn seiliedig ar ein hasesiadau hyd yma, rhagwelir y bydd cydrannau a modiwlau llai yn cael eu cludo gan ddefnyddio’r rhwydwaith ffyrdd presennol gyda modiwlau mwy arwyddocaol yn cael eu cludo ar long i un o gyfres o borthladdoedd lleol, lle byddant naill ai’n cael eu dadlwytho ar gerbydau cludo addas ac yn cael ei gludo i’r safle ar y ffordd, neu, pan fo’n rhesymol ymarferol, yn cael ei gludo ymlaen mewn cwch gyda rhan olaf y daith ar y ffordd. Lle mae’r llwybrau mynediad o’r porthladdoedd yn anaddas ar gyfer unrhyw un o’r unedau modiwlaidd mwy, gellid adeiladu’r unedau hyn ar y safle.
Rydym yn y broses o ddatblygu fframwaith Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) a fframwaith Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CTMP) a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o’n cais am DCO. Bydd y dogfennau hyn yn nodi’r egwyddorion, y rheolaethau, a’r mesurau y byddwn yn eu defnyddio i reoli a lliniaru’r effaith amgylcheddol bosibl yn ystod y gwaith adeiladu.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymarfer caffael er mwyn gallu penodi contractwyr ar gyfer cam dylunio ac adeiladu manwl y prosiect. Unwaith y bydd contractwr wedi’i benodi, byddwn yn gweithio gyda nhw i ddatblygu CTMP a CEMP manwl fel un o ofynion ein cais DCO. Bydd angen i’r awdurdod rheoleiddio perthnasol gymeradwyo’r cynlluniau hyn cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
Ceir rhagor o fanylion am reoli traffig a ragwelir ym Mhennod 10 yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR). Rydym yn ymgynghori ar y PEIR ac yn gwahodd adborth ar ein cynigion yn ystod ein Hymgynghoriad Statudol, o 8 Hydref i 19 Tachwedd 2024.
Gellir gweld y PEIR a Chrynodeb Annhechnegol y PEIR ar ein gwefan ac mewn digwyddiadau personol yn ystod ein Hymgynghoriad Statudol.
Mae gan safle Cei Connah lawer o fanteision, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio cysylltiadau seilwaith strategol presennol fel dŵr oeri, nwy a chysylltiadau grid. Gellir ailbwrpasu piblinell bresennol a ddefnyddiwyd yn flaenorol i ddosbarthu nwy i’r safle ar gyfer cludo CO2 wedi’i ddal. Ein bwriad yw cadw ac ailddefnyddio cymaint o seilwaith â phosibl ar gyfer y datblygiad, tra’n sicrhau ei fod yn addas at y diben am oes yr orsaf bŵer newydd.
Ceir disgrifiad manylach o’r datblygiad arfaethedig ym Mhennod 4 o’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR). Rydym yn ymgynghori ar y PEIR ac yn gwahodd adborth ar ein cynigion yn ystod ein Hymgynghoriad Statudol, a gynhelir rhwng 8 Hydref a 19 Tachwedd 2024.
Gellir gweld y PEIR a Chrynodeb Annhechnegol y PEIR ar ein gwefan ac mewn digwyddiadau personol yn ystod ein Hymgynghoriad Statudol.

The project plans
Have your say
We want to hear your views on our emerging proposals for the project.
